Agor Drysau
Adref
Agor Drysau i athrawon
Llwytho deunydd athrawon i lawr
Archebu deunydd athrawon
Agor Drysau
Cysylltiadau
Cymorth
gêm Allwedd i'r Drws
Dysgu Cyfoedion

 

 

Shelter Cymru
25 Heol Walter
Abertawe SA1 5NN
01792 469400

Rhif elusen 515902

 

 
ENGLISH VERSION

 

Lansiwyd y Prosiect Dysgu Cyfoedion gan Shelter Cymru yn 2003. Ei nod yw i hyfforddi pobl ifanc ddigartref i gyflwyno gwybodaeth i'w cyfoedion mewn ysgolion a sefydliadau eraill am sut i osgoi digartrefedd.


Mae prosiect 'Plain Simple Truth' yn rhoi cyflwyniadau ar hyd a lled De Cymru i ysgolion a sefydliadau eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Mae'n darparu gwybodaeth am ddigartrefedd, sut i'w osgoi, a beth allwch chi wneud os yw'n digwydd i chi.

Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar brofiadau'r addysgwyr cyfoedion eu hunain o ddigartrefedd a phroblemau tai.

Mae Shelter Cymru hefyd wedi cynhyrchu pecyn sbarduno ar gyfer sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn dechrau prosiectau tebyg eu hunain ar ddigartrefedd a thai, ac mae modd llwytho hwn o'r wefan. Gallwch gael mwy o wybodaeth wrth Jon Parvin ar 01792 483074 neu drwy ebost.


Gallwch hefyd archebu copi caled lliw llawn o'r pecyn yn rhad ac am ddim drwy'r manylion cyswllt uchod.

Mae'r Pecyn Sbarduno Dysgu Cyfoedion wedi ei anelu at sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc ddigartref sydd eisiau dechrau a chyflwyno prosiect eu hunain ar ddigartrefedd a thai ymhlith pobl ifanc.

Mae'n cynnwys adrannau ar:

  •  sefydlu cytundeb gweithiol gydag asiantaeth bartner
  •  y broses recriwtio
  •  deunydd hyfforddiant
  •  hyfforddiant preswyl
  •  cyflwyniadau
  •  adborth
  •  achrediad

Gallwch lwytho'r pecyn yn llawn drwy ddilyn y dolenni isod.

Cymraeg (safon sgrîn) 1.9 MB

Saesneg (safon sgrîn) 1.9 MB

Cymraeg (safon argraffu) 3.8 MB

Saesneg (safon argraffu) 3.8 MB

 

TOP

 

Agor Drysau  |  Llwytho`r canllaw i lawr  |  Archebu'r canllaw   |  Cysylltiadau  |   Cymorth