Mae gêm fwrdd Allwedd i'r Drws nawr ar gael am ddim i ysgolion a mudiadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc ddiymgeledd tra bod copiau'n weddill. Bydd Shelter Cymru yn gofyn am £7 ar gyfer p&p.
Gallwch archebu Allwedd i'r Drws drwy ebost neu drwy ffonio 01792 483 002.
Gall ysgolion a sefydliadau y tu hwnt i Gymru brynu'r gêm am £25 a £7p&p.
|
 |
Mae Allwedd i’r Drws yn gêm fwrdd ddwyieithog
a lliwgar gynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n
wynebu pobl ifanc wrth adael cartref. Enillodd Wobr Pat Chown
2001 am Ddyfeisgarwch ym Maes Tai. Mae’n cael ei defnyddio
ar hyn o bryd gan ystod eang o sefydliadau fel arf i drosglwyddo
gwybodaeth ar dai a digartrefedd i bobl ifanc mewn modd hwylus.
Y nod yw dod o hyd i le diogel, addas a sicr i fyw –
cael yr Allwedd i’r Drws. Mae chwaraewyr yn cychwyn
ar un pen i’r bwrdd lliw 64 sgwâr, yn taflu’r
dis yn eu tro, ac yn codi cerdyn o’r un lliw â’r
sgwâr maen nhw’n glanio arno.
Rhennir y cardiau yn bedwar prif faes: Cefnogaeth a Chyngor,
Tai, Arian, a Iechyd a Phrofiad. Mae pob cerdyn yn cynnwys
sefyllfa wahanol ac yn gorchymyn y chwaraewr i symud yn ôl,
aros yn ei unfan neu symud ymlaen - yn dibynnu ar y sefyllfa.
Gellir oedi’r gêm a thrafod y sefyllfa sydd ar
y cerdyn.
Bydd angen digonedd o lwc ar y chwaraewyr i gyrraedd y sgwâr
olaf a chael hyd i’r Allwedd i’r Drws. Mae’r
gêm yn fodd o ddysgu am y cymorth sydd ar gael a’r
problemau allai pobl ifanc wynebu wrth adael cartref.
Gall hyd at bedwar chwaraewr neu dîm chwarae’r
gêm. Gellir ei defnyddio gan bobl ifanc neu hyfforddwyr
i godi ymwybyddiaeth mewn modd ysgafn a hwylus.
|