|
Mae'r safle hwn
yn rhan o 'Brosiect Agor Drysau' Shelter Cymru. Mae Agor Drysau
yn gweithio i atal digartrefedd drwy roi cyfle i holl blant
ysgol Cymru ddysgu am faterion tai a digartrefedd.
Gobeithiwn y bydd hyn yn galluogi
pobl ifanc i adael cartref yn llwyddiannus ac yn ddiogel,
yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud
â thai a digartrefedd.
Mae'r prosiect yn gweithio i gyflawni'r
nod hwn mewn dwy brif ffordd:
Drwy addysg
Mae'r safle hwn yn cyd-fynd â chanllaw ar gyfer ysgolion
cynradd ac uwchradd o'r enw Agor Drysau.
Archebu deunydd athrawon
Llwytho deunydd athrawon
i lawr
Drwy wybodaeth
Beth yw hawliau pobl ifanc ym maes tai? Rydym yn gwella systemau
gwybodaeth Shelter Cymru i sicrhau bod pobl ifanc sy'n cysylltu
â ni yn cael yr atebion gorau posibl i'r cwestiwn hwn,
o ble bynnag yng Nhymru y maent yn galw. Rydym hefyd yn gwneud
yn siwr bod gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda
phobl ifanc fel gweithwyr ieuenctid a gofalwyr maeth
yn gallu cael gafael ar wybodaeth safonol i'w helpu
i barhau i atal digartrefedd.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Brosiect
Agor Drysau Shelter Cymru, anfonwch e-bost at: agor
drysau@sheltercymru.org.uk.
|