Housemate : Support
Housemate : Support

Cefnogaeth

Mae’r adran hon ar gyfer pobl ifanc yn bennaf. Bydd yn darparu pentwr o wybodaeth fel helpu ti i benderfynu os wyt ti yn barod i adael cartref a ble i fynd am gymorth gyda’r rhent os fyddi yn symud i fyw i le dy hun.

Mae pobl ifanc yn gadael cartref am nifer o resymau ac o dan amgylchiadau gwahanol iawn. Mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth ar gyfer llawer o wahanol sefyllfaoedd.

Os wyt ti’b meddwl y gallwn rhoi mwy o wybodaeth ar y wefan, yna danfon ebost atom gyda dy syniadau.

Cofia, dyw’r wefan hyn ddim ar gyfer pobl sydd yn ddigartref neu’n wynebu problemau llety yn unig. Mae Agor Drysau eisiau dy gefnogi er mwyn i ti fedru gwneud y penderfyniadau gorau posib am ble wyt ti’n byw ac osgoi problemau yn y dyfodol.

Os wyt yn oedolyn sy’n gweithio gyda phobl ifanc a bod y bobl ifanc yn dod atat am wybodaeth ar dai a digartrefedd, efallai y bydd y Pecyn Trywydd Cywir o ddefnydd i ti.