Beth yw Agor Drysau?
Mae’r wefan hon yn edrych ar faterion tai a digartrefedd sy’n effeithio ar bobl ifanc. Os wyt yn berson ifanc sy’n byw yng Nghymru ac mewn perygl o fod yn ddigartref, cer i’r adran Llety Brys.
Gwasanaeth Addysg Shelter Cymru sy’n gyfrifol am Agor Drysau. Os wyt yn berson ifanc, ac er mwyn i ti gael y dechrau gorau posib i fywyd fel oedolyn, mae gen ti yr hawl i ddysgu am fyw’n annibynnol. Mae Gwasanaeth Addysg Shelter Cymru yn addysgu pobl ifanc a’r rhai hynny sy’n gweithio gyda nhw, er mwyn osgoi problemau tai a digartrefedd yn y dyfodol.
Caiff Gwasanaeth Addysg Shelter Cymru a'r deunyddiau Agor Drysau eu hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Sori! Mae rhai o'r dolenni ar y wefan yma wedi torri ar hyn o bryd ond rydym yn ceisio eu trwsio. Os oes angen dogfen penodol arnoch, ebostiwch ein Cydlynydd Addysg. Diolch am fod yn amyneddgar!